Sut Mae Trydan Yn Eich Cyrraedd Chi

Ar ôl i’r trydan gael ei gynhyrchu, caiff ei gludo ar wifrau trydan foltedd uchel iawn ar beilonau. Fel hyn, mae’n bosibl cludo trydan dros bellterau mawr – mae fel rhwydwaith o draffyrdd ar gyfer pŵer!

Mae gwifrau trydan sy’n cael eu cario ar beilonau yn bwydo is-orsafoedd mawr. Mae newidyddion mewn is-orsafoedd yn gostwng cryfder, neu foltedd, y trydan. Mae gwifrau trydan neu geblau dan ddaear sy’n gadael yr is-orsaf yn cario trydan ar foltedd is.

Wrth i’r trydan fynd ymlaen ar ei daith, mae’r rhwydwaith dosbarthu’n bwydo trefi gan ddefnyddio llawer o wifrau trydan foltedd is sy’n cael eu cario ar bolion pren, ceblau dan ddaear ac is-orsafoedd – fel ffyrdd ‘B’ y rhwydwaith pŵer!

Mae’r trydan yn cael ei ddosbarthu trwy gyfres o is-orsafoedd, sy’n gostwng ei foltedd bob tro nes iddo fod yn addas i’r cwsmer ei ddefnyddio. Gall is-orsafoedd llai fod yn flychau metel bach wedi eu gosod ar bolion pren mewn ardaloedd gwledig neu’n adeiladau bach yn y rhan fwyaf o gymunedau.

Mae is-orsafoedd yn ymyl ein cartrefi a’n hysgolion yn gwneud yn siŵr bod y trydan sy’n cael ei gyflenwi yn ein 

Substation

cartrefi a’n hysgolion ar 230 o foltau. Gall yr is-orsafoedd hyn edrych yn wahanol iawn i’w gilydd; adeiladau bach o friciau yw rhai, mae rhai yn blastig, a blwch metel â ffens fetel o’i amgylch yw rhai eraill. Maen nhw’n ddiogel os ydynt dan glo a’n bod ni’n gadael llonydd iddyn nhw, a dim ond staff wedi’u hawdurdodi o’r cwmni dosbarthu trydan sy’n cael mynd i mewn.

Mae trydan yn dod i’n cartrefi trwy gebl dan ddaear neu wifren drydan uwchben ar 230 o foltau. Mae cebl y cyflenwad trydan yn dod i’ch cartref trwy fesurydd sy’n cofnodi faint o drydan rydych chi’n ei ddefnyddio ac uned defnyddiwr (neu flwch ffiwsiau) lle mae eich prif swits a’r dyfeisiadau cerrynt gweddilliol (RCD).

Yn olaf, mae eich gwifrau domestig yn dosbarthu trydan i oleuadau a socedi ym mhob rhan o’ch cartref.

Fuse box

Nid yw llawer o bobl yn adnabod offer ar y rhwydwaith trydan, er enghraifft, camddealltwriaeth cyffredin yw mai gwifrau ffôn yw’r ceblau ar bolion pren ond gwifrau pŵer trydan ydyn nhw’n aml.

Dylech bob amser edrych i fyny a chadw golwg am wifrau uwchben a chwilio am yr arwydd rhybudd du a melyn ‘Perygl Marwolaeth’ sy’n cael ei arddangos ar offer ar y rhwydwaith trydan i rybuddio pobl pa mor beryglus yw’r offer.

 

Dosbarthwyr A Chyflenwyr Trydan – Beth Yw’r Gwahaniaeth?

Cwmnïau dosbarthu trydan sy’n gyfrifol am y rhwydwaith o wifrau trydan, ceblau dan ddaear, is-orsafoedd ac ati, sy’n cludo trydan i’ch cartref neu eich busnes yn yr ardal lle rydych chi’n byw.

Read more